Mae nifer o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod ar yr heddlu yn dilyn parti anghyfreithlon yn Llundain.
Roedd yr heddlu ar y safle yn Lambeth am hyd at chwe awr yn ceisio tawelu’r dorf.
Cafodd amrywiaeth o daflegrau, gan gynnwys bom petrol, eu taflu atyn nhw.
Dywed yr heddlu fod nifer o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o anhrefn gyhoeddus ac o achosi difrod troseddol.
Cafodd pedwar o blismyn eu hanafu, a chafodd un dyn driniaeth gan y Gwasanaeth Ambiwlans.
Daeth y parti i ben am 6 o’r gloch y bore, ac mae’r heddlu’n parhau ar y safle’n ceisio symud y dorf oddi yno.
Roedd y parti wedi cael ei hysbysebu ar y wefan gymdeithasol Facebook, ac roedd 4,000 wedi dweud eu bod nhw’n mynd iddo.
Roedd y trefnwyr wedi annog y dorf yn y dyddiau cyn y parti i beidio achosi trafferth.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu Llundain: “Toc cyn 06:00 y bore ma, ddydd Sul 1 Tachwedd, aeth yr heddlu i mewn i’r lleoliad ac atal y digwyddiad gan ddefnyddio’u grym o dan y Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus.
“Cafodd pobol yn y lleoliad eu symud oddi yno. Roedd nifer o bobol wedi’u harestio.”
Mae’r heddlu wedi apelio am dystion.