Mae dyn wedi’i arestio mewn cysylltiad ag achos o saethu yn ninas Birmingham. Fe laddwyd un o’r dynion, gan adael y llall wedi’i anafu’n ddifrifol iawn.
Mae Heddlu’r West Midlands wedi cadarnhau fod dyn 27 oed wedi’i ddwyn i’r ddalfa yn dilyn yr ymosodiad ddoe.
Bu farw dyn 25 oed o ganlyniad i gael ei saethu, ac mae’r dyn arall yn parhau yn yr ysbyty.