Shaker Aamer
Mae’r carcharor ola’ i adael Bae Guantanamo yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth Prydain.

Heddiw ydi diwrnod cyfan cynta’ Shaker Aamer fel dyn rhydd, wedi iddo gael ei hedfan gartre’ o garchar yr Unol Daleithiau yn Ciwba, ddoe. Mae’r tad i bedwar o blant eisoes wedi cyfarfod ei wraig, Zin, ac mae disgwyl iddo weld ei blant dros y penwythnos.

Fe gafodd ei fab ieuenga’, Faris, ei eni ar ddiwrnod cynta’ ei dad yn y carchar.

Ond fe fydd Shaker Aamer yn dwyn achos yn erbyn Llywodraeth Prydain am ei rhan honedig hi yn y gamdriniaeth y dioddefodd yn Guantanamo. Mae’n mynnu mai nid ennill iawndal ydi’r nod, ond yn hytrach dwyn i sylw’r byd yr hyn sy’n digwydd mewn carcharau tebyg.

Mae Clive Stafford-Smith o’r grwp ymgyrchu tros hawliau dynol, Repriece, wedi galw am ymchwiliad annibynnnol i’r honiadau fod Shaker Aamer wedi cael ei arteithio yn ystod ei 13 blynedd dan glo.