Belffast
Mae dyn wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio, wedi achos o drywanu yng nghanol dinas Belffast.
Fe gafodd y dyn 23 oed ei arestio nos Iau, wedi i ddyn arall gael ei drywanu ar Stryd Fawr y ddinas.
Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Belffast yn ddiweddarach heddiw, ac fe fydd hefyd yn ateb cyhuddiad o fod â chyffuriau dosbarth B ac C yn ei feddiant, ynghyd ag ymosod ar blismon oedd yn ceisio’i arestio.
Mae’r dyn 19 oed a gafodd ei drywanu mewn cyflwr sefydlog.