Mae dau o aelodau seneddol yr SNP wedi ymuno â phlaid newydd Alex Salmond.
Mae Neale Hanvey, aelod seneddol Kirkcaldy a Cowdenbeath, wedi ymuno â Kenny MacAskill, fydd yn ymgeisydd ar gyfer sedd Canol yr Alban a Fife, ym mhlaid Alba.
Mae Hanvey, sy’n cynrychioli etholaeth oedd unwaith yn nwylo Gordon Brown, wedi cael gyrfa ddadleuol yn y byd gwleidyddol.
Yn 2019, cafodd ei atal gan yr SNP am ddefnyddio iaith wrth-Semitaidd ar y cyfryngau cymdeithasol ac ym mis Chwefror, cafodd ei ddiswyddo o fod yn llefarydd brechlynnau’r blaid ar ôl cefnogi ymgyrch dorfol i ddwyn achos yn erbyn Kirsty Blackman, aelod seneddol yr SNP, am ei bardduo tros hawliau pobol drawsryweddol.
Yn ogystal â Neale Hanvey a Kenny MacAskill, cyn-Ysgrifennydd Cyfiawnder yr Alban, mae Lynne Anderson, cynghorydd a chynullydd cenedlaethol cydraddoldeb yr SNP, hefyd wedi ymuno ag Alba.
‘Nicola Sturgeon yw’r ymgeisydd gorau’
Er gwaetha’r ymadawiadau am blaid newydd Alex Salmond, mae cyn-brif weinidog yr Alban yn mynnu mai Nicola Sturgeon, ei olynydd yn y swydd, yw’r ymgeisydd gorau i fod yn brif weinidog.
Fe wnaeth e’r sylwadau ar ôl lansio’i blaid newydd ddiwedd yr wythnos.
Dim ond mewn etholaethau rhanbarthol y bydd ymgeiswyr Alba yn sefyll, gan adael y ffordd yn glir i’r SNP.
“Dw i’n credu mai hi ddylai fod yn brif weinidog oherwydd dylai’r SNP ennill mwyafrif hardd,” meddai Alex Salmond.
“Hi yw’r unig ymgeisydd dichonadwy tros annibyniaeth ac felly, hi yw’r un gorau.
“Does gen i ddim uchelgais i fod mewn llywodraeth.
“Dw i ddim yn sefyll i fod yn brif weinidog, dw i’n sefyll tros blaid Alba ar y rhestr i adeiladu mwyafrif swmpus tros annibyniaeth.”
Yn ôl Nicola Sturgeon, mae’r blaid newydd yn “beth da”, a hynny am na fydd rhaid iddi “dreulio llawer o amser yn siarad amdano fe na meddwl amdano fe ragor”.