Bailey Gwynne (Llun Heddlu'r Alban)
Fe fydd bachgen 16 oed yn ymddangos yn y llys heddiw ynglŷn â marwolaeth Bailey Gwynne, y disgybl a gafodd ei ladd mewn ysgol uwchradd yn Aberdeen yr wythnos hon.

Mae disgwyl i’r bachgen ymddangos yn breifat yn llys sirol y ddinas ar ôl cael ei gyhuddo ynglŷn â’r digwyddiad yn Cults Academy.

Cafodd Bailey Gwynne, oedd hefyd yn 16 oed, ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol ar ôl i heddlu gael eu galw i’r ysgol am 1.30 brynhawn Mercher.

Roedd wedi cael ei drywanu ac fu farw ychydig yn ddiweddarach.

Colli ‘mab arbennig’

“Roedd o’n fab, brawd, ŵyr a ffrind arbennig – roedd o wastad yn llwyddo i wneud i ni wenu (y rhan fwyaf o’r amser). Ein bachgen ni fydd o am byth,” meddai teulu Bailey Gwynne, sydd wedi sôn am fachgen “annwyl a thyner”.

“Dydyn ni ddim yn gwybod beth wnawn ni heb ein ‘dyn ifanc o gwmpas y tŷ’. Mae angen amser nawr arnon ni i edrych ar ôl ein gilydd ac rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sy’n meddwl am Bailey,” medden nhw

Fe aeth cannoedd o ffrindiau a chyd-ddisgyblion Bailey Gwynne i wylnos a gafodd ei chynnal yn Eglwys Blwyf Cults neithiwr.

Dywedodd pennaeth yr ysgol o 1,000 o ddisgyblion, sydd mewn ardal gefnog o Aberdeen, fod y gymuned wedi cael ei synnu’n llwyr yn dilyn y farwolaeth.

Ysgol yn dal i fod ynghau

Fe gadarnhaodd prif uwch-arolygydd Police Scotland Adrian Watson eu bod wedi cyhuddo bachgen 16 oed, sydd heb gael ei enwi, ynglŷn â’r farwolaeth.

“Mae angen i mi bwysleisio bod yr holl dystiolaeth yr ydyn ni wedi’i chasglu hyd yma yn awgrymu bod hwn yn ddigwyddiad ar ei ben ei hun a dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall,” meddai Adrian Watson.

Dywedodd arweinydd cyngor dinas Aberdeen, Jenny Laing, bod Bailey Gwynne wedi cael ei amddifadu o’r cyfle i baratoi ei hun ar gyfer ei fywyd yn y dyfodol, ac fe ychwanegodd Prif Weinidog yr Alban Nicola Sturgeon bod digwyddiadau o’r fath “yn brin iawn yn ein hysgolion”.

Mae gwasanaethau cwnsela wedi cael eu cynnig i ddisgyblion a staff yr ysgol, a does dim disgwyl i Cults Academy ailagor tan ddydd Llun.