Reyaad Khan (Llun: PA)
Fe fydd dau ymchwiliad seneddol yn cael eu cynnal i farwolaeth jihadydd o Gaerdydd.

Mae cadeiryddion newydd dau o bwyllgorau yn Nhŷ’r Cyffredin wedi dweud mai ymosodiadau gan awyrennau dibeilot yn Syria fydd testun eu hymchwiliadau cynta’.

Roedd un o’r rheiny wedi lladd Reyaad Khan, 21 oed o Gaerdydd, yn Syria ym mis Awst eleni.

Ar y pryd, roedd y Prif Weinidog, David Cameron, wedi dweud fod yr ymosodiad yn achos o “hunan-amddiffyn”.

Edrych ar wybodaeth gudd

Mae’r cyn-Dwrnai Cyffredinol, Dominic Grieve, yn dweud mai’r ymosodiad drôn ar Reyaad Khan a dau jihadydd arall fydd ei ymchwiliad cynta’ ar ôl dod yn gadeirydd ar y Pwyllgor Cuddwybodaeth a Diogelwch.

Roedd yr ymosodiad yn un “draconaidd”, meddai, ond fe allai fod yn gyfreithlon os oedd y dystiolaeth yn gwarantu hynny.

Fe fydd ei bwyllgor yn edrych ar yr wybodaeth oedd gan y gwasanaethau cudd cyn i’r ymosodiad ddigwydd.

‘Cynllwynio’

Wrth gyhoeddi’r wybodaeth am yr ymosodiad rai wythnosau ar ôl iddo ddigwydd, fe honnodd David Cameron fod y jihadyddion, gan gynnwys Reyaad Khan, yn recriwtio pobol i ymuno gyda’r corff milwrol IS ac yn cynllwynio i drefnu ymosodiadau ar dargedau yng ngwledydd Prydain.

Mae cadeirydd Cydbwyllgor Hawliau Dynol y Senedd, Harriet Harman, hefyd wedi dweud mai ymosodiadau drôn fydd ei hymchwiliad hithau.