Mae ditectifs yn Llundain yn credu bod cysylltiad rhwng cyfres o ymosodiadau rhyw ar ferched yn hwyr y nos.

Mae wyth o fenywod wedi diodde’ ymosodiad yn Clapham, de Llundain, yn ystod y mis diwetha’. Mae pob un wedi disgrifio’r dyn oedd yn gyfrifol am ymosod arnyn nhw fel un â chroen y Môr Canoldir neu’r Dwyrain Canol, gydaa gwallt tywyll.

Yn ôl yr heddlu, mae’r dyn yn targedu merched yn hwyr y nos, ac mae pob un o’r dioddefwyr yn eu 20au neu eu 30au.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad diweddara’ neithiwr, pan gafodd dynes ei gwthio i mewn i floc o fflatiau yn Sudbourne Road, Clapham.

Yn gynharach neithiwr, fe afaelodd dyn mewn merch 28 oed ar Southwell Road, ond fe redodd o ymaith wedi iddi hi ddechrau sgrechian.