Syr John Chilcot
Fe ddylai adroddiad Syr John Chilcot i’r rhyfel yn Irac fod yn barod i’w gyhoddi erbyn mis Gorffennaf y flwyddyn nesa’.

John Chilcot ei hun sydd wedi gwneud y datganiad heddiw, wrth i’w dîm o weithwyr geisio gorffen y gwaith o ysgrifennu’r adroddiad dwy filiwn o eiriau erbyn yr wythnos sy’n dechrau Ebrill 18, 2016.

Mewn llythyr at Brif Weinidog Prydain, David Cameron, mae’n dweud y bydd yr adroddiad ar gael i swyddogion erbyn hynny, er mwyn gwneud yn siwr nad ydi’r adroddiad yn tramgwyddo rheolau “diogelwch cenedlaethol”.

“Unwaith y bydd y gwaith o wirio’r adroddiad o ran diogelwch cenedlaethol, fe ddylai hi fod yn bosib i ddod i gytundeb ar ddyddiad yn ystod Mehefin neu fis Gorffennaf 2016,” meddai yn y llythyr.

Siom y teuluoedd

Mae perthnasau’r rheiny a gafodd eu lladd yn Irac wedi lleisio eu siom, wedi iddi ddod yn glir na fydd Adroddiad Chilcot yn cael ei gyhoeddi cyn yr ha’ nesa’.

Mae Reg Keys, tad y milwr Tom Keys o Lanuwchllyn a gafodd ei ladd yn Irac yn 2003, yn dweud ei fod yn “ddig” am yr oedi.

“Dydyn ni ddim yn gweld unrhyw reswm pam na allai’r cyfan fod wedi’i gwblhau cyn y Nadolig,” meddai ar newyddion y BBC.

“Y peryg ydi mai’r unig beth gawn ni o’r adroddiad ydi fersiwn wedi’i lastwreiddio o rai o’r sylwadau beirniadol y mae Syr John wedi’u hanelu at weision suful a gwleidyddion.

“Mae’n debyg iawn i fynd i mewn i lys barn i wylio achos, ond na chewch chi glywed y cyhuddiadau gwreiddiol yn cael eu cyflwyno i’r cyhuddiedig. Dim ond y fersiwn wedi’i lanhau gewch chi ei glywed.

“Twyll oedd y cyfan,” meddai Reg Keys wedyn. “Celwydd oedd o, ac mi fu farw nifer o ddynion a merched ifanc yn yr ymladd.”