Ty'r Arglwyddi
Mae’r Arglwyddi wedi cael eu cyhuddo o ymddwyn mewn modd “affwysol” gan yr Arglwydd sy’n arwain adolygiad o bwerau ei gydweithwyr.

Cafodd yr Arglwydd Strathclyde ei benodi i archwilio’r modd y caiff Arglwyddi wneud penderfyniadau economaidd allweddol a rhoi sêl bendith ar ddeddfwriaeth eilradd.

Mae hyn yn dilyn yr helynt ar ôl i’r Llywodraeth Geidwadol gael eu hatal gan yr Arglwyddi ddydd Llun rhag cyflwyno’u rhaglen o doriadau i gredydau treth.

Awgrymodd yr Arglwydd Strathclyde y gallai’r ddeddfwriaeth bresennol gael ei haddasu er mwyn cwtogi ar bwerau’r Arglwyddi.

Ond fe wfftiodd y posibilrwydd y gallai rhagor o Arglwyddi Ceidwadol gael eu penodi er mwyn rhoi mwyafrif i’r Llywodraeth er mwyn gallu pasio deddfwriaeth.

Dywedodd yr Arglwydd Strathclyde: “Rwy’n credu bod Tŷ’r Arglwyddi wedi ymddwyn yn anghywir, mewn modd affwysol ac yn ddiangen.”

Ychwanegodd fod penderfyniad yr Arglwyddi ynghylch credydau treth wedi arwain at “argyfwng rhannol”.

Mae’r Arglwydd Strathclyde wedi amddiffyn ei hun yn erbyn honiadau ei fod yn fwli yn dilyn awgrym bod Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi gofyn am gynnal adolygiad er mwyn rhoi pwysau ar yr Arglwyddi i osgoi ffrae o’r fath eto yn y dyfodol.

Dywedodd wrth raglen World at One ar BBC Radio 4: “Fy swydd yw ceisio cynnig eglurdeb i gonfensiynau sydd wedi bodoli, i edrych ar y dewis gan nad oes yna’r un llywodraeth y gallaf i feddwl amdani ers yr Ail Ryfel Byd a fyddai wedi derbyn bod Tŷ’r Arglwyddi’n dinistrio neu’n atal darn mawr o ddeddfwriaeth yn ymwneud â materion ariannol, a hynny ychydig wythnosau cyn Datganiad yr Hydref ac ychydig ddiwrnodau ar ôl i Dŷ’r Cyffredin bleidleisio o’i blaid.”

Dywedodd fod addasu deddfwriaeth bresennol yn “un ateb posib”, ond mai penodi rhagor o Arglwyddi Ceidwadol fyddai’r “peth anghywir i’w wneud”.

Mae disgwyl i’r adolygiad ddod i ben cyn y Nadolig.