Gall cigoedd sydd wedi’u prosesu fel bacwn, selsig a ham achosi canser y coluddyn, yn ôl arbenigwyr iechyd rhyngwladol.

Roedd adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd hefyd wedi canfod bod cigoedd coch “mwy na thebyg” yn garsinogenig (achosi canser), gyda chysylltiadau yn bennaf â chanser y coluddyn, ond hefyd â chanser y pancreas a chanser y brostad.

“Roedd cigoedd sydd wedi’u prosesu yn cael eu hystyried yn garsinogenig i bobol, ar sail tystiolaeth ddigonol ym mhobol bod bwyta cigoedd sydd wedi’u prosesu yn achosi canser y coluddyn,” meddai asiantaeth canser Sefydliad Iechyd y Byd, yr Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Canser.

“Ddim yn effeithio ar wariant cig”

Roedd un cigydd yn Bow Street, Aberystwyth yn eithaf hyderus na fyddai’r newyddion hwn yn effeithio ar wariant cig.

“Mae pobol yn dal yn mynd i brynu cig,” meddai Alun Morgan, o Gigydd Bow Street.

“Gallai effeithio ar yr archfarchnadoedd ond falle bydd pobol yn fwy parod i brynu cig yn lleol.”

‘Cadw cydbwysedd’

Fe ddywedodd Elen Lloyd, sy’n faethegydd wrth raglen Taro’r Post, bod y broblem oherwydd y math o gig rydym ni’n prynu erbyn hyn.

“Rydym ni’n prynu lot iawn o fwydydd sydd wedi cael eu prosesu â chemegau. Rydym ni’n brysur a ry’n ni eisiau pethau sy’n hawdd, a dyna yn y pendraw sy’n effeithio ar ein hiechyd,” meddai.

“Rydyn ni’n gorfwyta cig coch y dyddie ‘ma, felly does dim byd yn bod ar leihau cig coch yn y diet, ond beth sy’n pryderu fi yw bod pobl yn torri llawer ar gig coch ac yna’n bwyta fwy o fara gwyn a bisgedi.

“Cadw’r cydbwysedd, dyna sy’n bwysig.”

‘Parhau i fwyta’n gymedrol’

Dywedodd llefarydd ar ran Hybu Cig Cymru: “Nid yw adolygiad y IARC (yr Asiantaeth Ryngwladol ar gyfer Ymchwil Canser) yn seiliedig ar unrhyw dystiolaeth newydd ac mae’r dystiolaeth sy’n bodoli yn gyfyngedig.

“Nid yw ychwaith yn cadarnhau bod bwyta cig coch a chig wedi’i brosesu fel rhan o ddiet cytbwys yn achosi canser.

“Mae’r Llywodraeth yn argymell na ddylai unigolyn fwyta mwy na 70g o gig coch a chig wedi’i brosesu’r dydd, ac nid yw’r cyngor hwnnw’n newid. Ar gyfartaledd, mae unigolyn yn y DU yn bwyta 17g y dydd o gig coch wedi’i brosesu, felly byddai’n rhaid treblu hyn i gynyddu unrhyw risg.

“Nid oes tystiolaeth bod peidio bwyta cig coch yn atal canser, felly gall unigolion barhau i fwynhau cig coch yn gymedrol.”