Protest Myfyrwyr Caerdydd
Fe wnaeth myfyrwyr sy’n ymgyrchu dros gael swyddog llawn amser dros y Gymraeg yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd gynnal gwrthdystiad wythnos ddiwethaf o fewn adeilad yr Undeb.

Roedd hyn ar y diwrnod roedd cyfweliadau’n cael eu cynnal i benodi cydlynydd y Gymraeg yn yr Undeb.

Mae’r myfyrwyr yn anhapus dros y broses o benodi’r cydlynydd am nad oedd yr Undeb wedi “ymgynghori’n llawn” â’r myfyrwyr Cymraeg ac maen nhw’n dadlau bod hyn yn profi’r angen am gynrychiolydd etholedig llawn-amser i gynrychioli siaradwyr a dysgwyr Cymraeg y brifysgol.

Mae swyddog llawn amser dros y Gymraeg eisoes ym Mhrifysgol Bangor ac Aberystwyth ond swydd wirfoddol, rhan amser yw hi ym Mhrifysgol Caerdydd, er mai yn fanno mae’r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yn astudio.

‘Cynrychiolaeth myfyrwyr Cymraeg yn annigonol’

“… mae eithrio’r Swyddog y Gymraeg etholedig o’r panel cyfweld ar gyfer swydd Cydlynydd y Gymraeg yn dystiolaeth bellach bod myfyrwyr Cymraeg yn cael eu cynrychioli yn annigonol ar faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw o fewn Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol,” meddai Steffan Bryn, Swyddog Ymgyrch rhan-amser y Gymraeg yn Undeb y Myfyrwyr.

“Mae’r cyfaddefiad gan yr Undeb mai dim ond swyddogion sabothol llawn-amser gaiff le wrth y bwrdd a dylanwad yn y penderfyniadau ’mawr’ yn adrodd cyfrolau… nid oes modd i fyfyrwyr Cymraeg gael eu cynrychioli yn ddigonol o fewn y strwythurau presennol.”

Yn ôl y myfyrwyr, fe wnaeth Prif Weithredwr yr Undeb y Myfyrwyr eithrio Steffan Bryn o’r broses yn gyfan gwbl o achos y brotest, “gan sathru ar lais y myfyrwyr.”

Gwrthododd cynrychiolwyr myfyrwyr Cymraeg adael yr adeilad hyd nes bod Llywydd etholedig y myfyrwyr, neu ei dirprwy, yn cadarnhau penderfyniad y Prif Weithredwr, gan aros yn swyddfeydd y swyddogion sabothol am y rhan fwyaf o’r diwrnod a bu’n rhaid galw’r Llywydd, a oedd ar ddiwrnod o wyliau blynyddol, i’r gwaith.

Yr ymgyrch i ‘ddwysau’

 

Mae’r myfyrwyr wedi cadarnhau y bydd eu hymgyrch yn dwysau, os na fydd Is-Ganghellor y Brifysgol yn cwrdd â nhw i drafod eu pryderon.

“Rwy’n apelio, unwaith yn rhagor, ar yr Is-Ganghellor Colin Riordan ei hun i gyfarfod â chynrychiolwyr myfyrwyr Cymraeg i ddelio yn llawn â’n galwadau i’r Brifysgol ariannu swyddog myfyrwyr llawn-amser dros y Gymraeg yn uniongyrchol,” meddai Steffan Bryn.

“Bydd ein hymgyrch yn dwysau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf hyd nes bod ein galwadau yn derbyn y gwrandawiad y maent yn eu haeddu ac yn cael eu gweithredu yn llawn.”