Mae ail long y llynges wedi cael ei hanfon i Fôr y Canoldir fel rhan o’r ymdrechion i sicrhau nad yw ffoaduriaid yn cael eu cludo i Ewrop yn anghyfreithlon.

Mae HMS Richmond wedi cyrraedd arfordir Libya, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon y byddai unigolion sy’n ceisio cludo ffoaduriaid yn anghyfreithlon “yn cael eu bwrw’n galed”.

Mae HMS Enterprise eisoes yn Libya er mwyn casglu cudd-wybodaeth, ond fe fu’n rhaid i’r llong achub hyd at 400 o bobol dros nos oherwydd fod awdurdodau’r Eidal eisoes dan gryn bwysau.

Fe fydd hawl gan griw’r llongau i fynd ar fwrdd llongau a’u cipio os ydyn nhw’n cael eu hamau o gael eu defnyddio i gludo ffoaduriaid yn anghyfreithlon.

Ychwanegodd Michael Fallon: “Mae’r pwerau newydd hyn yn gam pwysig ymlaen. Bellach, gallwn fynd ar fwrdd y cychod a chipio smyglwyr.”

Roedd HMS Enterprise wedi disodli HMS Bulwark ym mis Gorffennaf.

Mae mwy na 600,000 o ffoaduriaid wedi cyrraedd gwledydd Ewrop yn 2015, y rhan fwyaf yng Ngwlad Groeg a’r Eidal.

Mae lle i gredu bod mwy na 2,000 o bobol wedi marw tra’n ceisio cyrraedd y cyfandir.