Mae heddlu Llundain yn ymchwilio wedi i rywun saethu at gar heddlu yn gynnar heddiw.
Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad yn Neasden, gogledd orllewin Llundain.
Roedd swyddogion Scotland Yard wrthi’n gwneud ymholiadau pan gafodd ffenest a gril blaen y car ei ddifrodi.
“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n credu mai bwled o wn achosodd y difrod,” meddai datganiad gan yr heddlu.
“Dydyn ni ddim yn meddwl fod swyddogion wedi’u targedu, gan ein bod wedi dod o hyd i ddifrod tebyg ar arwyddion a meinciau yn yr ardal hefyd.”