Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i gyfres o danau ceir sydd wedi’u riportio yn ardal Wrecam heddiw.

Fe ddigwyddodd pob un o’r saith achos rhwng 6.18yb a 7yb, a’r gred ydi eu bod wedi eu cynnau’n fwriadol.

Mae adran lleihau nifer y tanau bwriadol, ynghyd a Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru yn cydweithio er mwyn dod o hyd i’r sawl sy’n gyfrifol.

“Mae hwn yn fater difrifol,” meddai datganiad gan Heddlu Gogledd Cymru. “Ar wahan i fod yn destun pryder a sioc i berchnogion y ceir, fe allai’r tanau hyn fod yn rhoi bywydau mewn peryg.”