Mae teulu merch 15 oed sydd wedi’i chyhuddo o lofruddio dyn yn dilyn ffrae ar y stryd, wedi bod yn y llys yn ei chefnogi.

Fe gafodd y gyrrwr lori, Darren Kelly, 42, o Basildon, Essex, ei drywanu i farwolaeth ychydig filltiroedd o’i gartre’ nos Fawrth yr wythnos hon.

Mae pedwar o bobol wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Chelmsford, wedi’u cyhuddo o’i lofruddio.

Yn eu plith yr oedd merch 15 oed o Pitsea; bachgen 17 oed o Pitsea; bachgen 16 oed o Basildon; a Chris Carroll, 20, o Pitsea.

Wrth i’r cyhuddiad o ‘lofruddiaeth’ gael ei ddarllen allan yn y llys, roedd nifer o berthnasau’r plant yn eu dagrau. Ond, mewn gwrandawiad ar wahân, fe ymddangosodd Chris Carroll mewn tracwisg goch, ac roedd yn gwenu ac yn dylyfu gwên wrth gerdded i’r doc.

Mae’r pedwar wedi’u cadw yn y ddalfa nes y byddan nhw’n ymddangos gerbron Llys y Goron Chelmsford ar Hydref 27. Mae merch 13 oed o Basildon, a gafodd ei harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu tan Ragfyr 16.