Mae un teithiwr wedi marw, a dau arall wedi’u hanafu’n ddifrifol mewn damwain ffordd ym  Merthyr Tudful yn ystod oriau mân bore heddiw.

Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau mewn datganiad fod Renault Laguna lliw du yn teithio ar hyd ffordd yr A054 ar Ffordd Caerdydd o Edwardsville i gyfeiriad Merthyr, pan fu mewn gwrthdrawiad gyda nifer o geir oedd wedi parcio ger Gray’s Place tua 2.40yb.

Fe gafodd y ffordd ei chau am rai oriau tra bod y gwasanaethau brys yn gwneud eu gwaith.

Fe gafodd y gyrrwr y car, ynghyd â theithiwr sedd flaen, eu cludo i Ysbyty Tywysog Siarl, Merthyr Tudful, yn diodde’ o anafiadau difrifol. Fe laddwyd y teithiwr sedd gefn o ganlyniad i’w anafiadau.