Xi Jinping
Mae Arlywydd China wedi cwrdd â rhai o fawrion clwb pêl-droed Manchester City.
Fe wnaeth David Cameron ymuno â Xi Jinping ar yr ymweliad i Fanceinion wrth i’r Prif Weinidog geisio hyrwyddo agenda ei lywodraeth i greu dinasoedd “o bŵer” yng ngogledd Lloegr.
Cafodd yr arlywydd, sydd yn ôl pob tebyg yn ffan Man U, daith o amgylch safle hyfforddi tîm cyntaf Man City gan gadeirydd y clwb, Khaldoon Al Mubarak.
Fe wnaethon nhw wylio hanes rhywfaint o hanes y clwb gyda Sergio Aguero, seren y tîm.
Roedd ymosodwr tîm merched y clwb, Toni Duggan, yno hefyd.
Fe wnaeth Al Mubarak son am y “gôl hanesyddol” sgoriodd Sergio Aguero er mwyn curo Queen’s Park Rangers ac ennill pencampwriaeth Uwch Gynghrair Lloegr.