Nicola Sturgeon a Leanne Wood
Mae Nicola Sturgeon wedi mynnu nad oes rheswm pam na ddylai Plaid Cymru gredu y gallan nhw ennill etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Mewn araith i gynhadledd y Blaid yn Aberystwyth y prynhawn yma dywedodd Prif Weinidog yr Alban fod yr SNP eisoes wedi dangos beth oedd yn bosib ei wneud.

Wrth annerch ffyddloniaid Plaid Cymru dywedodd arweinydd yr SNP y byddai’r ddwy blaid yn parhau i gydweithio i geisio sicrhau mwy o bwerau oddi wrth San Steffan.

Talodd deyrnged hefyd i arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood am ei chyfeillgarwch ac i aelodau Plaid Cymru am fod mor barod i helpu’r Albanwyr geisio ennill annibyniaeth llynedd.

Refferendwm

Yn ystod ei araith diolchodd ar ran yr SNP wrth aelodau Plaid Cymru, am deithio i’r Alban yn eu niferoedd yn ystod y refferendwm llynedd i  helpu’r ymgyrch ‘Ie’.

“Fe wnaethoch chi sefyll ochr yn ochr â ni yn ystod ymgyrch fwyaf ein bywydau ac fe fyddwn ni wastad yn ddiolchgar. Gobeithio y cawn ni gyfle i dalu’r ffafr nôl rhyw ddydd,” meddai arweinydd yr SNP.

Siaradodd hefyd am y cysylltiad hanesyddol agos rhwng y ddwy “chwaer blaid” yn ogystal â phobl Cymru a’r Alban eu hunain a hanes diwydiannol y ddwy wlad, gan fynnu y bydden nhw’n ymladd i amddiffyn y diwydiant dur.

Ac roedd hi’n uchel ei chanmoliaeth i Leanne Wood gan fynnu ei bod hi’n “barod ac yn gymwys i arwain Cymru fel Prif Weinidog”.

Gwrthwynebu llymder

Unwaith eto fe bwysleisiodd Nicola Sturgeon thema yn ei haraith gafodd ei chlywed yn aml yn ystod yr etholiad cyffredinol yn gynharach eleni, mai Plaid Cymru a’r SNP oedd yr unig bleidiau fyddai wir yn gwrthwynebu agenda llymder y llywodraeth.

“Yng Nghaerdydd, Caeredin a San Steffan, yr SNP a Phlaid Cymru yw’r rhai sydd yn sefyll yn gadarn yn erbyn llymder,” meddai.

“Fe fydd ASau Plaid a’r SNP yn sefyll yn gadarn yn erbyn y toriadau i gredydau treth fydd yn ergyd distrywio teuluoedd gweithiol.

“Fe fyddwn ni’n gwrthwynebu ymosodiad y Torïaid ar y bregus a’r anabl. Fe wnawn ni gefnogi rhagor o fuddsoddiad yn ein gwasanaethau cymdeithasol, ein hisadeiledd a’n heconomi.

“Ac fe fyddwn ni’n sefyll yn unedig o blaid hawliau dynol a rhyddid hanfodol undebau llafur [yn ogystal â] chynlluniau anghyfiawn, anfforddiadwy ac anfoesol i wario £100bn ar genhedlaeth newydd o arfau niwclear Trident.”

Mesur Drafft Cymru

Mynnodd hefyd y byddai’r SNP yn cydweithio â Phlaid Cymru yn San Steffan i wrthwynebu’r cynigion presennol ym Mesur Drafft Cymru sydd wedi cael eu cynnig gan y llywodraeth Geidwadol.

“Dyw hi ddim yn fy synnu i o gwbl nad yw’r Bil Cymru gafodd ei chyhoeddi wythnos diwethaf yn cyrraedd yr uchelgais sydd gan bobl Cymru,” meddai Nicola Sturgeon.

“Mae gennym ni brofiadau ein hunain o fod wedi cael ein siomi gan addewidion ar ragor o bwerau.”

Ychwanegodd bod San Steffan yn trin Cymru a’r Alban â dirmyg, gan gyfeirio at y cynlluniau ar gyfer Pleidleisiau Saesnig i Ddeddfau Saesnig fel rhai fyddai’n golygu bod ASau’r ddwy wlad yn cael eu trin fel “dinasyddion eilradd” yn Nhŷ’r Cyffredin.