Bydd un prosiect yng Nghymru yn cael £120,000 gan fenter Tyfu’n Wyllt i ‘drawsnewid llecynnau lleol’ gyda blodau gwyllt.

Gall pobl bleidleisio dros un o dri safle bydd yn ennill yr arian i fuddsoddi yn eu gerddi gyda’r bwriad o “ddefnyddio blodau gwyllt i uno’r gymuned leol.”

Bydd y safle sy’n ennill y bleidlais yn cael ei gwblhau erbyn haf 2016.

Y tri sydd yn y ras

Mae’r tri safle sydd yn y gystadleuaeth i gyd yn dod o’r de-ddwyrain, yng Nghwmbrân, Caerdydd a Glyn Ebwy.

Mae’r prosiect Urban Buzzz yn archwilio hanes trawsnewid Cwmbrân o dir fferm cyn-ddiwydiannol i ganol tref a chymuned ffyniannus, gan ddefnyddio blodau gwyllt brodorol o wledydd Prydain.

Bydd y prosiect Discover the Diff yng Nghaerdydd yn ‘defnyddio blodau gwyllt yn fan cychwyn ar gyfer rhoi bywyd i natur yn y ddinas’, ac maen nhw eisoes wedi trawsnewid y llwybr pren wrth Stadiwm y Mileniwm drwy greu gwaith celf gyhoeddus a lleoedd wedi’u llenwi â blodau gwyllt.

Ac mae’r prosiect yng Nglyn Ebwy, O Ffwrnes i Flodau am drawsnewid safle cyn-waith dur yn ‘baradwys ôl-ddiwydiannol sy’n parchu’r gorffennol, yn dathlu harddwch y presennol ac sy’n helpu pobl i ddychmygu a chreu dyfodol blodeuog, mwy llachar.’

Mae’r fenter Tyfu’n Wyllt yn cael ei chefnogi gan Gronfa’r Loteri Fawr, ac wedi’i harwain gan Erddi Botaneg Brenhinol Kew. Ceisio dod â lliw i leoedd lleol yw nod yr ymgyrch, ynghyd â rhoi cyfleoedd i weithio gyda blodau gwyllt, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc.

“Mae pob un o’r prosiectau hyn yn cynnig cyfle i drawsnewid llecynnau trefol i bobl leol a thrigolion fel ei gilydd trwy ddefnyddio blodau gwyllt. Dymunwn y gorau i’r prosiectau ar y rhestr fer,” meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa’r Loteri Fawr.

Helpu iechyd corfforol a meddyliol

“Bydd y tri phrosiect yn cynnig sawl ffordd i bobl leol ddysgu am flodau gwyllt a’u mwynhau, a byddan nhw’n darparu manteision o ran iechyd corfforol a meddyliol pawb dan sylw,” meddai Maria Golightly, Rheolydd Partneriaeth Cymru ar gyfer Tyfu’n Wyllt.

Mae’r fenter am weld 30 miliwn o bobl ledled Prydain yn mynd ati i blannu mwy o flodau gwyllt. Drwy oes y rhaglen, sy’n dod i ben yn 2017, bydd miliwn o becynnau hau hadau yn cael eu dosbarthu, gyda’r bwriad penodol o gyrraedd pobl ifanc, 12 -25 oed.

Gallwch bleidleisio am eich hoff brosiect drwy fynd ar-lein yn vote.growwilduk.com neu bleidleisio trwy ffonio am ddim.

0808 228 7201 am Urban Buzzz, Cwmbrân

0808 228 7202 am Discover the Diff, Caerdydd

0808 228 7203 am O Ffwrnes i Flodau, Glyn Ebwy