Mae cyn-gystadleuydd Big Brother wedi galw am sefydlu Senedd Ieuenctid yng Nghymru er mwyn “rhoi llais cryfach i bobl ifanc a’u hannog i gymryd rhan yng ngwleidyddiaeth”.
Yn wreiddiol o Wynedd, mae Glyn Wise bellach yn byw yng Nghaerdydd ac mae’n sefyll dros Blaid Cymru yn etholaeth Canol Caerdydd ar gyfer y Cynulliad.
Yng nghynhadledd flynyddol y blaid yn Aberystwyth heddiw, fe wnaeth aelodau Plaid Cymru gefnogi cynnig mudiad ieuenctid y blaid i greu Senedd Ieuenctid, mewn trafodaeth oedd yn cael ei harwain gan Glyn Wise.
“Cymru yw’r unig wlad yn Ewrop sydd heb Senedd Ieuenctid. Mae hyn yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru yn 2014 i dorri cyllid ar gyfer senedd iau genedlaethol Cymru, y Ddraig Ffynci, yn 2014,” meddai’r dyn 27 oed wrth gynadleddwyr.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r corff ymbarél Plant yng Nghymru yn gwneud gwaith y Ddraig Ffynci erbyn hyn ond mae beirniaid wedi dweud bod hyn yn gwthio’r pobl ifanc i weithio drwy sefydliad arall yn nwylo oedolion.
“Un o brif broblemau’r Ddraig Ffynci oedd ei ddiffyg annibyniaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru. Dylai fod senedd ieuenctid yn atebol i’r Cynulliad Cenedlaethol, nid Llywodraeth Cymru,” meddai Glyn Wise.
Yr Alban yn arwain y ffordd
“Mae’r nifer o bobl ifanc a gofrestrodd ac a drodd allan i bleidleisio yn refferendwm annibyniaeth yr Alban yn dangos fod gan nifer ddiddordeb ac yn gallu cael eu mobileiddio i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth,” meddai Glyn Wise.
“[Mae] profiad yr Alban yn dangos bod Plaid Cymru yn iawn i alw am leisiau pobl ifanc i gael eu clywed trwy ostwng oedran pleidleisio i 16.
“Byddai senedd ieuenctid cenedlaethol yn rhoi llais i bobl ifanc ac yn eu caniatáu i ddylanwadu ar bolisïau a deddfwriaeth sy’n effeithio arnyn nhw. Gall hefyd annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.”