O wefan y cwmni
Mae miloedd o bobol yng Nghymru yn aros i glywed faint o’u manylion personol sydd wedi cael eu dwyn oddi ar wefan y cwmni ffonau a band eang, TalkTalk.

Mae’r cwmni wedi rhybuddio’u 4 miliwn o gwsmeriaid trwy wledydd Prydain y gallai hynny gynnwys gwybodaeth am gardiau credyd a chyfrifon banc yn ogystal ag enwau, cyfeiriadau a rhifau ffôn.

Mae cwsmeriaid y cwmni’n cael eu cynghori i gadw llygad ar eu cyfrifon banc i wylio am weithgaredd anarferol.

Trydydd ymosodiad

Uned troseddau seibr Scotland Yard sy’n ymchwilio i’r ymosodiad gan hacwyr, a ddigwyddodd fore Mercher ac a gafodd ei ddatgelu ddoe.

Dyma’r trydydd ymosodiad o fewn naw mis ar wefan y cwmni sy’n dweud eu bod yn cydweithio gydag arbenigwyr i geisio deall maint yr ymosodiad.

Ym mis Mehefin roedd adroddiadau am droseddwyr yn defnyddio gwybodaeth oedd wedi ei ddwyn oddi ar wefan TalkTalk er mwyn twyllo pobol i roi rhagor o fanylion pwysig.

Ymddiheuro

Mae Prif Weithredwr TalkTalk, Dido Harding, wedi ymddiheuro am yr ymosodiad gan ddweud bod ymosodiadau ar wefannau bellach yn broblem fawr ryngwladol.

“Alla i ddim dweud yn union faint o gwsmeriaid sydd wedi’u heffeithio,” meddai mewn cyfweliadau. “R’yn ni wedi ceisio mynd yn gyhoeddus unwaith yr oedd gyda ni syniad gweddol o ba wybodaeth a allai fod wedi’i cholli.”

Mae’r cwmni wedi cydnabod nad oedd yr holl wybodaeth wedi’i hencryptio.