Mae cyflwyno ‘Pleidleisiau Saesnig i Ddeddfau Saesnig’ (EVEL) yn San Steffan bellach gam yn nes ar ôl i Aelodau Seneddol leisio eu barn ar y mater yn y siambr heddiw.

Cafodd y cynigion ar gyfer EVEL eu pasio yn y bleidlais gyntaf ar y mater, gyda 312 o ASau yn pleidleisio o blaid a 270 yn gwrthwynebu.

Maen nhw’n rhan o gynlluniau’r llywodraeth Geidwadol i atal ASau o’r gwledydd datganoledig rhag pleidleisio ar ddeddfau pan maen nhw’n effeithio ar Loegr yn unig.

Ers datganoli mae llywodraethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cael rheolaeth dros lawer o feysydd polisi, megis addysg ac iechyd, ond mae eu ASau dal yn gallu pleidleisio ar y materion hynny yn San Steffan pan maen nhw’n effeithio ar Loegr yn unig.

Fodd bynnag dyw cynlluniau’r llywodraeth ddim wedi plesio pawb, gydag ASau Llafur, yr SNP a Phlaid Cymru ymysg y rheiny sydd wedi eu gwrthwynebu.

Gwrthwynebiad

Mae’r llywodraeth yn San Steffan wedi llunio cyfres o gynlluniau o dan y drefn newydd gan ddadlau y byddan nhw’n “cryfhau’r Undeb” ac yn rhoi “mwy o reolaeth i Loegr dros benderfyniadau sy’n effeithio Lloegr yn unig.”

Fodd bynnag, mae’r SNP wedi beirniadu’r cynlluniau’n hallt, gan ddweud y byddan nhw’n pleidleisio yn eu herbyn.

Mae ASau Llafur fel Chris Bryant wedi gwrthwynebu’r cynigion gan ddweud nad ydyn nhw’n datrys y problemau sydd yn cael eu creu o fod â llywodraethau datganoledig sydd yn gyfrifol am rai meysydd ond nid eraill.

Ac mae hyd yn oed Ceidwadwyr fel Glyn Davies wedi mynegi pryder ynglŷn ag EVEL, gan gyfeirio er enghraifft at y ffaith bod pobl yn ei etholaeth ef yn Sir Drefaldwyn yn defnyddio adnoddau iechyd yn Lloegr ond y byddai ef, fel eu AS nhw, ddim bellach yn cael pleidleisio ar y materion hynny yn y Senedd.