Mae pump o bobl, yn cynnwys merch 13 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ladd gyrrwr lori yn nhref Basildon yn Swydd Essex.

Mae’r Heddlu yn credu fod Darren Kelly wedi marw nos Fawrth ar ôl cael ei drywanu yn dilyn ffrae gyda grŵp o bobl yn eu harddegau.

Mae archwiliad post-mortem dros dro yn cadarnhau fod Darren Kelly wedi marw ar ôl iddo gael ei drywanu sawl gwaith a cholli gwaed.

Mewn datganiad a ryddhawyd gan Heddlu Essex, mae merch Darren Kelly, Zoe wedi dweud ei bod wedi torri ei chalon yn dilyn marwolaeth ei thad.

“Does neb byth eisiau clywed am farwolaeth aelod o’r teulu, heb son am glywed eu bod wedi eu llofruddio.”

“Roeddwn yn caru fy nhad, roeddem yn agos iawn a ‘doedd o ddim yn byw yn bell oddi wrtha’i.  Rwyf wedi torri fy nghalon ac mae gwybod na fydd o rownd y gornel i mi yn mynd i fod yn anodd iawn.”

Mae timau fforensig a’r Heddlu yn parhau i archwilio’r safle am dystiolaeth.

Darren Kelly wedi cael ei drywanu yn Basildon