Mae cyfraddau marwolaeth sy’n ymwneud â Covid-19 ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol gwrywaidd a benywaidd yn parhau i fod yn sylweddol uwch na gweddill y boblogaeth, yn ol ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Cofrestrwyd cyfanswm o 469 o farwolaethau Covid-19 ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr rhwng Mawrth 9 a Rhagfyr 28 2020, gyda chyfraddau o 79.0 o farwolaethau fesul 100,000 o ddynion a 35.9 o farwolaethau fesul 100,000 o fenywod.

Ymhlith gweithwyr gofal iechyd – gan gynnwys meddygon, nyrsys, staff ambiwlans a phorthorion ysbytai – roedd gan ddynion gyfradd marwolaeth sylweddol uwch na’r boblogaeth (44.9 fesul 100,000), gyda chyfradd y menywod yn 17.3 fesul 100,000.

Nid oedd cyfraddau marwolaethau Covid-19 ar gyfer dynion a menywod sy’n gweithio fel gweithwyr addysgu ac addysg broffesiynol, megis athrawon ysgol uwchradd, yn uchel o gymharu â chyfraddau ar gyfer gweddill y boblogaeth, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Y gyfradd ar gyfer athrawon gwrywaidd a gweithwyr addysg broffesiynol yng Nghymru a Lloegr yn 2020 oedd 18.4 o farwolaethau i bob 100,000, o’i gymharu â 31.4 ar gyfer pob dyn rhwng 20 a 64 oed, tra ar gyfer menywod roedd yn 9.8 o’i gymharu â 16.8.

Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol nad oedd y rhain yn “sylweddol wahanol yn ystadegol na’r rhai o’r un oedran a rhyw yn y boblogaeth ehangach”.