Mae bachgen 16 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio bachgen a gafodd ei drywanu i farwolaeth yng ngorllewin Llundain.
Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys Ynadon Bromley, fory.
Fe gafodd bachgen 17 oed ei drywanu drwy’i galon yn Acton ddydd Gwener. Fe gafodd ei ruthro i ysbyty yng nganol dinas Llundain, ond bu farw yno.
Yn ôl Scotland Yard, mae bachgen arall 17 oed, a gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi’i ryddhau, ac mae disgwyl iddo ddychwelyd i orsaf yr heddlu yng ngorllewin Llundain ar ddyddiad penodol yn gynnar fis Tachwedd.