Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio heddwas a gafodd ei saethu tra’n gweithio ar achos cudd.

Mae Tyrone Henry, 31,  o Hackney, wedi’i gyhuddo hefyd o fod â gwn yn ei feddiant gyda’r bwriad o beryglu bywyd; ynghyd â bod wedi’i wahardd rhag cadw gwn. Fe ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Tafwys yn Bow, dwyrain Llundain, fore heddiw.

Mae’r plismon a gafodd ei saethu yn gweithio i Heddlu’r Met, ac mae mewn cyflwr sefydlog ers cael ei saethu yn ei ysgwydd yn Hackney brynhawn Iau yr wythnos hon.

Fe fydd Tyrone Henry yn aros yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos eto gerbron Llys y Goron Wood Green ar Hydref 29.