Leanne Wood yn Aberdeen heddiw
Mae Plaid Cymru yn gobeithio efelychu llwyddiant plaid yr SNP yn yr Alban, er mwy torri’r rheolaeth sydd gan y blaid Lafur tros Gymru Dyna neges arweindd Plaid Cymru, Leanne Wood, wrth annerch cynhadledd Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) yn Aberdeen heddiw.

Roedd y gynulleidfa ar ei thraed wedi iddi annerch y neuadd, gan ddweud fod gan Gymru wersi i’w dysgu gan yr Alban. Tra bod yr SNP wedi medru dathlu llwyddiant ysgubol yn etholiad cyffredinol mis Mai eleni, mae Plaid Cymru ar hyn o bryd yn y trydydd safle yn y Cynulliad ym Mae Caerdydd, y tu ôl i Lafur a’r Ceidwadwyr.

“Yng Nghymru, mae yna ergyd ddwbwl,” meddai Leanne Wood. “Does gyda ni, fel cenedl, ddim pwerau sylfaenol… ac mae gyda ni Lywodraeth Lafur na fyddai’n gwybod beth i wneud gyda’r phwerau pe baen nhw gyda ni.

“Yma yn yr Alban, mae gyda chi lywodraeth SNP dan arweiniad fwy nag abl eich Prif Weinidog, o gymharu â’r Llywodraeth Lafur sydd gyda ni yng Nghymru.

“Llywodraeth Lafur yw hi sy’n goruchwylio dirywiad ein gwlad,” meddai Leanne Wood. “Fe ddaeth arweinydd Llafur yn yr Alban i Gymru yn ddiweddar er mwyn dysgu gwersi, pan mae angen i Gymru ddysgu gwersi gan yr Alban.

“Nid datganoli sy’n gadael Cymru i lawr, ond Llafur. Yn yr Alban, rydych chi wedi cael gwared â’r ddwy blaid fawr – Llafur a’r Ceidwadwyr – ac r’yn ni’n bwriadu gwneud union yr un peth yng Nghymru.”