Mae lefelau troseddau rhyw yng Nghymru a Lloegr ar eu huchaf ers i gofnodion ddechrau, yn ôl ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae’r Arolwg Troseddu yng Nghymru a Lloegr yn nodi cynnydd o 41% ers llynedd sy’n 27,602 o droseddau’n ychwanegol.

Roedd cyfanswm o 95,482 o droseddau rhyw wedi cael eu cofnodi dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys 31,621 o achosion o dreisio.

Yn ôl y ONS, cofnodion gwell gan yr Heddlu a’r ffaith bod mwy o ddioddefwyr yn barod i roi gwybod i’r heddlu am y troseddau sydd y tu ôl i’r cynnydd mawr hwn.

Ffigurau “trawiadol”

Dywedodd yr elusen Rape Crisis, sy’n rhoi cymorth i ddioddefwyr troseddau rhyw, bod y ffigurau newydd yn “drawiadol”, a dywedodd y bydd llawer o’r troseddau yn rhai hanesyddol.

“Mae’n debygol bod y ffigurau hyn yn dangos cynnydd graddol ym mharodrwydd dioddefwyr i gael cyfiawnder yn hytrach na chynnydd yn nifer y troseddau rhyw sy’n cael eu cyflawni,” meddai llefarydd ar ran yr elusen.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, atebodd Rape Crisis 165,000 o alwadau llinell gymorth a rhoddodd cymorth i dros 50,000 o ddioddefwyr.