Mae disgwyl i Grŵp Arcadia, sy’n berchen ar siopau Topshop, Dorothy Perkins a Burton, fynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn y dyddiau nesaf.

Dydy Arcadia heb gadarnhau’r newyddion, ond yn cydnabod fod y cwmni’n edrych ar “opsiynau eraill”.

“Rydym yn ymwybodol o’r dyfalu diweddar yn y cyfryngau ynghylch dyfodol Arcadia,” meddai llefarydd.

“Mae gorfod cau ein siopau am gyfnodau parhaus o ganlyniad i bandemig Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar fasnachu ar draws ein busnesau.

“O ganlyniad, mae bwrdd Arcadia wedi bod yn gweithio ar nifer o opsiynau wrth gefn i sicrhau dyfodol brandiau’r grŵp.

“Mae’r brandiau’n parhau i fasnachu a bydd ein siopau’n agor eto yn Lloegr ac yn Iwerddon cyn gynted ag y bydd cyfyngiadau Covid-19 y Llywodraethau yno yn cael eu codi.”

Roedd y grŵp wedi bod mewn trafodaethau brys i geisio sicrhau benthyciad o £30 miliwn.

Os bydd y cwmni yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, mae’n bosib bydd ras ymhlith credydwyr i gael rheolaeth dros asedau’r cwmni.

Ergyd drom

Disgrifiodd undeb Usdaw y newyddion fel “ergyd drom” i weithwyr Arcadia, a hynny wythnosau’n unig cyn y Nadolig.

“Rydym wedi galw am gyfarfodydd brys gyda’r rheolwyr ac rydym yn eu hannog i roi terfyn ar eu safiad gwrth-undeb hirsefydlog, a chysylltu â ni.”