Mae Prifysgol Abertawe wedi derbyn buddsoddiad gwerth mwy na £3m er mwyn gwella ffyrdd o adnabod a thrin canser yr ofari.

Mae’r Clwstwr Therapiwteg Cyffuriau Gwrthgyrff Cyfunedig ac Epigenomaidd (CEAT) yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe hefyd wedi derbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru – gan ddod â chyfanswm gwerth y prosiect i fwy na £5m.

Bydd y Brifysgol yn gweithio’n agos gyda’i phartneriaid i ddatblygu cyffuriau fydd yn targedu celloedd canser yr ofari.

Yn ôl Cancer Research UK, mae 7,400 o ferched yn cael diagnosis o ganser yr ofari bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig, a dyma’r chweched canser mwyaf cyffredin ymhlith merched.

“Cynnydd mawr”

Mae aelodau’r tîm yn datblygu technegau i nodi cleifion a fydd yn cael eu trin â’r cyffuriau newydd.

“Rydym yn falch o ddweud bod y prosiect wedi gwneud cynnydd mawr,” meddai Dr Lewis Francis, un o Brif Ymchwilwyr CEAT.

“Rydym hefyd wedi nodi sawl ymgeisydd addawol i gael cyffuriau sy’n ymgymryd â rhagor o brofion.”

Ychwanegodd yr Athro Keith Lloyd, Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Mae’r ffaith bod partneriaid CEAT yn cynyddu eu buddsoddiad yn y prosiect yn dangos bod y tîm yn gwneud cynnydd a bod y canlyniadau wedi bod yn addawol hyd yn hyn.

“Mae hyn yn dangos pa mor dda y gallwn weithio gyda diwydiant, yn ogystal â thynnu sylw at y triniaethau a allai achub bywydau sy’n cael eu datblygu.”