Lee Rigby
Roedd tri dyn wedi cynllwynio i gynnal ymosodiad tebyg i lofruddiaeth y milwr Lee Rigby cyn Sul y Cofio, clywodd llys heddiw.

Roedd y cefndryd Nadir Syed, 22 a Yousaf Syed, 20, ynghyd a Haseeb Hamayoon, 28, wedi rhannu lluniau o bobl yn cael eu dienyddio gan eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wrth iddyn nhw gynllwynio’r ymosodiad y llynedd, clywodd y rheithgor.

Fe gawson nhw eu hysbrydoli gan Michael Adebowale a Michael Adebolajo a ymosododd ar Lee Rigby gyda chyllell ger barics Woolwich yn ne Llundain yn 2013, clywodd Llys y Goron Woolwich, yn Llundain.

Dywedodd yr erlynydd Max Hill QC bod y tri, sy’n gefnogol i IS, wedi  dechrau cynllwynio sut i brynu cyllyll addas ar gyfer yr ymosodiad ym mis Tachwedd y llynedd.

Cafodd y dynion eu harestio ar 6 Tachwedd y llynedd. Mae Nadir Sayed, o Hounslow, gorllewin Llundain, Yousaf Syed o High Wycombe, Swydd Buckingham, a Hamayoon o Hayes, gorllewin Llundain, yn gwadu cynllwynio gweithredoedd brawychol.

Mae’r achos yn parhau.