Huw Irranca-Davies
Mae Aelod Seneddol Llafur dros Ogwr, Huw Irranca-Davies, wedi dweud ei fod am sefyll yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf.

Mae’n gobeithio cael ei enwebu i sefyll dros y blaid wrth i’r Aelod Cynulliad Janice Gregory gyhoeddi na fydd yn sefyll eto yn y sedd yn sir Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae Huw Irranca-Davies wedi bod yn AS ers 2002. Dywedodd yr AS ei fod wedi bod yn ystyried y posibilrwydd o symud o San Steffan i Fae Caerdydd ers rhyw ddwy neu dair blynedd.

Bydd y blaid nawr yn gorfod penderfynu os bydd ymgeisydd Llafur yn cael ei ddewis o restr agored neu o restr merched yn unig.