Mae Facebook wedi mynnu ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith er i’r cwmni dalu llai na £5,000 mewn treth gorfforaeth yn y Deyrnas Unedig y llynedd.
Fe wnaeth gangen y DU o’r cwmni cyfryngau cymdeithasol anferth dalu £4,327 mewn trethi yn ôl ei gyfrifon cyhoeddus diweddaraf.
Mae hyn yn llai na’r hyn y byddai gweithiwr ym Mhrydain ar gyflog cyffredin o £26,500 yn ei dalu, a fyddai’n £3,180 mewn treth incwm a £2,213 mewn cyfraniadau yswiriant cenedlaethol.
Yn rhyngwladol, fe wnaeth Facebook elw o £1.9 biliwn.
‘Mater o argyfwng’
Dywedodd Facebook ei fod yn cymryd rhwymedigaethau treth o ddifrif a’i fod yn gweithio’n agos gyda swyddogion.
“Rydym yn cydymffurfio â chyfraith dreth y DU ac mewn gwirionedd â phob gwlad lle mae gennym weithwyr a swyddfeydd. Rydym yn parhau i dyfu ein gweithgareddau busnes yn y DU,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.
Yn ôl cyfarwyddwr Cynghrair y Trethdalwyr, John O’Connell, mae Facebook yn gywir i ddweud ei fod yn “cydymffurfio â’r gyfraith”, ond bod hyn yn dangos bod y “broblem” yn ein “cod treth cymhleth.”
“Dylai gwleidyddion fynd i’r afael â hyn fel mater o argyfwng,” meddai.
“Mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein trethi yn syml i ddileu ffyrdd o osgoi talu trethi.”