Mae cwmni cemegol mawr Ineos wedi prynu 12 o feysydd nwy Mor y Gogledd.

Dyma’r tro cynta’ i Ineos fentro i’r maes nwy, a’r gred ydi ei fod yn bwriadu gwneud mwy o waith yn y diwydiant.

Mae’r meysydd sydd wedi’u prynu oddi ar arfordir dwyreiniol Yr Alban a gogledd-ddwyrain Lloegr, ac yn cyflenwi 8% o’r nwy sy’n cael ei ddefnyddio yng ngwledydd Prydain, ac yn ddigon i gynhesu un o bob deg cartre’ yn y Deyrnas Unedig.

Ineos sy’n rhedeg gwaith Grangemouth, sef yr unig waith sy’n puro olew a chemegion sy’n gysylltiedig â Mor y Gogledd.

“Rydyn ni’n falch iawn o fod â phortffolio bychan o asedau sy’n ymwneud â nwy naturiol, ac rydyn ni’n falch iawn o’n tim o arbenigwyr sy’n deall diwydiant Mor y Gogledd,” meddai Jim Ratcliffe, cadeirydd cwmni Ineos.