Mae ditectifs sy’n ymchwilio i achos llofruddiaeth mam a gafodd ei chanfod yn farw yn y ty yr oedd hi’n ei rannu â’i mab ifanc, wedi arestio dyn.

Roedd heddlu Scotland Yard yn Llundain wedi gofyn am help y cyhoedd i drio dod o hyd i Miles Donnelly (neu Miles Ryan) wedi i gorff Usha Patel, 44, gael ei ddarganfod yn ei fflat yn Cricklewood, gogledd-orllewin Llundain, fore Iau.

Fe gafodd Miles Donnelly, 34, ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth gan swyddogion yn Paddington, Llundain, fore heddiw.

Mae yn y ddalfa mewn swyddfa heddlu yng ngogledd Llundain erbyn hyn.