Mae ymladdwyr tân wedi bod wrthi ers oriau bellach yn ceisio diffodd fflamau mewn gwaith ailgylchu sbwriel yng Nghaerdydd.

Mae 2,000 tunnell o sbwriel yn y ganolfan yn ardal Gwynllwg, ac fe gafodd y frigad dân ei galw gynta’ toc wedi 8.30yb.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cadarnhau bod 13 o beiriannau bellach ar waith ar y safle.

Mae’r gwasanaethau brys yn cynghori trigolion Penylan, Llanedeyrn a Thremorfa i gadw drysau a ffenestri eu tai ar gau.