Malala Yousafzai
Mae tad enillydd Gwobr Heddwch Nobel wedi siarad am y tro cynta’ am ei obaith – a’i freuddwyd – o gael dychwelyd i fyw i’w cartre’ ym Mhacistan rhyw ddydd.

Fe ddaeth Malala Yousafzai yn agos at farw yn 2012, wedi i’r ferch 15 oed gael ei saethu yn ei phen gan y Taliban yn y wlad – a hynny am siarad allan tros hawliau merched i gael addysg.

Ond mae ei thad, Ziauddin Yousafzai, wedi dweud wrth bapur newydd The Sunday Times ei fod yn gobeithio y byddan nhw’n gallu dychwelyd adre’ rhyw ddydd. Yno, roedd yntau’n ymgyrchydd hawliau dynol hefyd, ac fe sefydlodd ysgol i fechgyn a merched o gartrefi tlawd yn ninas Swat.

“Mae realiti wedi troi’n freuddwydion, a dw i’n cael trafferth troi’r breuddwydion yn realiti eto,” meddai yn y cyfweliad papur newydd.

“Dw i wrth fy modd yn y Deyrnas Unedig, mae’n wlad arbennig a dw i’n ddiolchgar iawn am yr hyn wnaeth hi dros Malala… dw i hyd yn oed wedi dod yn gyfarwydd â’r glaw! Ond wnes i ddim dewis y wlad hon i mi fy hun, a dw i’n ei chael hi’n anodd.

“Dw i’n falch o gael fy adnabod fel tad i fy merch… ond mae’r enwogrwydd byd-eang yma yn dod ar gefn methu â byw yn fy ngwlad fy hun,” meddai wedyn.

“Mi fyddai’n well gen i fod ym Mhacistan, lle’r oedd pobol yn fy nabod fel tad Malala.”