Pauline Cafferkey
Mae teulu nyrs sy’n ddifrifol wael gyda’r afiechyd Ebola yn honni fod meddygon wedi “colli cyfle” i weld ei bod hi’n sâl pan aeth i glinig yn ddiweddar.
Fe ddywedwyd wrth Pauline Cafferkey ei bod yn diodde’ o “feirws”, meddai ei chwaer, Toni Cafferkey ym mhapur The Sunday Mail.

Fe drawyd Pauline Cafferkey yn sâl am y tro cynta’ pan oedd hi’n gwirfoddoli yn Sierra Leone y llynedd, ac roedd i weld wedi gwella’n llwyr yn dilyn triniaeth yn ysbyty’r Royal Free yn Llundain.

Ond ddydd Mawrth yr wythnos hon, fe gafodd y nyrs ei chludo eto i’r ysbyty, wedi iddi ddechrau teimlo’n sâl.

“Mae fy nheulu a finnau’n credu bod meddygon wedi colli cyfle i roi’r diagnosis cywir, ac rydan ni’n teimlo eu bod nhw wedi gadael Pauline i lawr,” meddai Toni Cafferkey.

“Dw i’n meddwl bod y ffordd y mae hi wedi cael ei thrin yn warthus,” meddai wedyn. “Dydan ni ddim yn gwybod os cafodd yr oedi wrth ddiagnosio beth oedd yn bod ar Pauline, wedi cael effaith andwyol ar ei hiechyd. Ond dydi o ddim digon da.

“Mae yna fethiannau mawr wedi bod, ond erbyn hyn, y cwbwl ydan ni fel teulu eisiau ydi gweld Pauline yn dod trwyddi.”