Mae ffrwydriad yn Afghanistan wedi targedu confoi o filwyr tramor yn y brifddinas, Kabul.

Fe gafodd tri o bobol gyffredin eu lladd yn yr ymosodiad, fe gafodd tri o bobol eraill eu hanafu, ac fe ddifrodwyd rhai adeiladau yn rhannol.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad yn Kabul, gyda’u llefarydd yn dweud mewn datganiad fod eu hunanfomiwr wedi targedu confoi o dramorwyr.

Mae nifer o ymosodiadau wedi bod yn y brifddinas yn ystod yr wythnosau diwetha’, yn cynnwys un ar Hydref 6 lle cafodd cartre’ cyn-lywodraethwr Helmand, Nahim Baloch, ei dargedu.