Liam Williams (Llun: Undeb Rygbi Cymru)
Fydd Liam Williams ddim yn cymryd rhan pellach yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd.

Fe ddaeth cyhoeddiad heddiw gan Undeb Rygbi Cymru yn dweud fod yr anaf i droed y cefnwr a’r asgellwr yn golygu na fydd yn gallu gwisgo’r crys coch am weddill yr ymgyrch.

Fe gafodd ei frifo neithiwr yn y gêm yn erbyn Awstralia, ond nid dyma’r tro cynta’ iddo ddiodde’ anafiadau i’w draed.

Yn ei neges, mae Undeb Rygbi Cymru yn disgrifio’r ergyd fel “newyddion siomedig”.