Bosnia-Herzegovina 2 – 0 Cymru
Er i Gymru golli oddi-cartref yn erbyn Bosnia heno, mae canlyniadau eraill yn eu grŵp yn golygu bod tîm Chris Coleman wedi cadarnhau eu lle yn rowndiau terfynol Ewro 2016.
Coleman ydy’r rheolwr cyntaf ers Jim Murphy ym 1958 i arwain Cymru i rowndiau terfynol un o’r prif bencampwriaethau rhyngwladol.
Cymru reolodd y gêm am y mwyafrif o’r noson, a byddan nhw’n hynod siomedig i golli eu record di-guro yn y gemau grŵp.
Er hynny, wrth i’r newyddion gyrraedd Sarajevo bod Cyprus wedi curo Israel o 2-1, anghofiodd chwaraewyr Cymru bopeth am y canlyniad ac ymuno â’r cefnogwyr oedd wedi teithio i ddathlu creu hanes.
Di-sgôr oedd hi ar yr hanner, gyda Chymru’n creu’r mwyafrif o gyfleoedd – y gorau’n cwympo i Neil Taylor reit ar ddiwedd yr hanner cyntaf.
Yr ymwelwyr oedd y tîm gorau yn yr ail hanner hefyd, gan chwarae’n hunanfeddiannol ac roedd dyn yn teimlo y byddai’r cyfle i gipio gôl yn siŵr o gyrraedd cyn y diwedd.
Ond, roedd ar Bosnia fwy o angen y canlyniad heno na Chymru, ac roedd hynny’n amlwg wrth i’w rheolwr gyflwyno’r ymosodwr Milan Djuric i’r frwydr.
Ac roedd yn benderfyniad a fyddai’n talu ffordd wrth iddo sgorio gôl o ddim byd i roi ei dîm ar y blaen wedi 71 munud, yn penio dros Hennessey yn y gôl.
Roedd Chris Coleman yn amlwg eisiau cadw record di-guro ei dîm, ac roedd ei benderfyniadau’n rai ymosodol – yn gyntaf yn dod â Vokes i’r cae yn lle Ledley, cyn cyflwyno Simon Church a Dave Edwards yn hwyrach.
Yn anffodus, doedd dim yn tycio ac wrth i Gymru bwyso, manteisiodd y tîm cartref trwy gipio ail gôl i sicrhau’r fuddugoliaeth yn y funud olaf.
Ond doedd y canlyniad yn golygu dim eiliadau wedi’r diwedd wrth i’r newyddion am fuddugoliaeth Cyprus gyrraedd clustiau chwaraewyr a thîm rheoli Cymru…a bydd y dathlu’n siŵr o barhau’n hwyr i’r nos yn Sarajevo, cyn i’r parti mawr ddechrau yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.
Bosnia-Herzegovina: Begovic, Mujdza, Spahic, Sunjic, Zukanovic, Visca, Pjanic, Hadzic, Salihovic, Lulic, Ibisevic.
Eilyddion: Sehic, Grahovac, Bicakcic, Cocalic, Stojan Vranjes, Ognjen Vranjes, Medunjanin, Dzeko, Djuric, Hodzic, Hajrovic, Buric.
Cymru: Hennessey, Gunter, Ashley Williams, Taylor, Ramsey, Davies, Allen, Richards, Ledley, Bale, Robson-Kanu.
Eilyddion: Fon Williams, King, Jonathan Williams, Church, Vokes, Edwards, Chester, Collins, Vaughan, Lawrence, Henley, Ward.