Di-sgôr ydy hi rhwng Cymru a Bosnia-Herzegovina yn y gêm ragbrofol hollbwysig ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop 2016.

Bydd rheolwr Cymru, Chris Coleman, ddigon hapus â’r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd, gyda gêm gyfartal yn ddigon i gadarnhau lle Cymru yn y rowndiau terfynol yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.

Bydd y rheolwr hefyd yn ddigon bodolon â pherfformiad ei dîm  yn yr hanner cyntaf wrth iddyn nhw edrych yn ddigon cyfforddus yn erbyn tîm sydd angen ennill heno i gadw eu gobeithion hwythau’n fyw.

Er bod Bosnia wedi chwarae’n ymosodol iawn yn yr hanner cyntaf, mae Cymru wedi eu cyfyngu i ddim ond un cyfle gwirioneddol a Wayne Hennessey heb gael arbediad i’w wneud eto.

Os rhywbeth, mae Cymru wedi creu mwy o gyfleoedd a daeth y gorau o’r rheiny yn eiliadau olaf yr hanner wrth i Hal Robson-Kanu lithro’r bêl i Aaron Ramsey mewn gofod yng nghwrt y gwrthwynebwyr.

Dangosodd Ramsey reolaeth dda wrth guro un dyn a phasio ar draws gôl wrth i Neil Taylor ruthro i’r cwrt – yn anffodus i gefnwr Abertawer llwyddodd un o amddiffynwyr Bosnia i wneud digon i orfodi’r bêl i freichiau croesawgar Asmir Begovic yn y gôl.

Bosnia-Herzegovina: Begovic, Mujdza, Spahic, Sunjic, Zukanovic, Visca, Pjanic, Hadzic, Salihovic, Lulic, Ibisevic.

Eilyddion: Sehic, Grahovac, Bicakcic, Cocalic, Stojan Vranjes, Ognjen Vranjes, Medunjanin, Dzeko, Djuric, Hodzic, Hajrovic, Buric.

Cymru: Hennessey, Gunter, Ashley Williams, Taylor, Ramsey, Davies, Allen, Richards, Ledley, Bale, Robson-Kanu.

Eilyddion: Fon Williams, King, Jonathan Williams, Church, Vokes, Edwards, Chester, Collins, Vaughan, Lawrence, Henley, Ward.