David Phillips (Llun Heddlu Glannau Mersi)
Fe fydd llanc sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio’r Cwnstabl Dave Phillips yn ymddangos yn y llys heddiw am yr ail dro.
Mae Clayton Williams, 18 oed, wedi cael ei gadw yn y ddalfa ers i wrandawiad byr gael ei gynnal yn Llys Ynadon y Wirral ddoe.
Mae wedi cael ei gyhuddo o ddwyn tryc Mitsubishi yn ystod byrgleriaeth a’i yrru at y plisman, gan ei ladd.
‘Niwed corfforol difrifol’
Mae hefyd wedi’i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol bwriadol i blismon arall, y Cwnstabl Thomas Birkett, a neidiodd o’r ffordd wrth i’r tryc daro ei gyd-weithiwr.
Mae Clayton Williams yn wynebu sawl cyhuddiad arall yn ymwneud â’r fyrgleriaeth ac am fynd â’r tryc yn ystod y lladrad yng Nglannau Mersi ddydd Llun.
Bydd yn ymddangos mewn gwrandawiad rhagarweiniol yn Llys y Goron Lerpwl heddiw am 2pm drwy gysylltiad fideo yn y carchar.
Cyhudiadau yn ebryn dyn arall
Mae dyn arall, Philip Mark Stuart, 30 oed hefyd wedi cael ei gyhuddo o fyrgleriaeth, dwyn cerbyd ac achosi marwolaeth drwy ddamwain, wrth i honiadau godi ei fod e wedi bod yn y tryc hefyd.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Lerpwl ar 22 Hydref.
Roedd tair dynes, sy’n 19, 34 a 59 oed, a dyn sy’n 39 oed, wedi cael eu harestio am helpu’r troseddwr, ond maen nhw erbyn hyn wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliadau pellach gael eu gwneud.