Michael Fallon
Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon wedi dweud y bydd Prydain yn anfon “nifer fechan” o filwyr i wledydd y Baltig mewn ymgais i wrthsefyll unrhyw fygythiad gan Rwsia.
Wrth iddo gyrraedd am gyfarfod gyda gweinidogion amddiffyn ym Mrwsel, dywedodd Michael Fallon mai’r bwriad oedd rhoi sicrhad i’r gwledydd.
“Mae hyn yn rhoi sicrwydd pellach i’n cynghreiriaid yn Nato – i wledydd y Baltig ac i Wlad Pwyl,” meddai.
Dywedodd Michael Fallon y byddai lluoedd Prydain yn rhan o gynllun hyfforddiant newydd gan Nato yng Ngwlad Pwyl a gwledydd y Baltig – Latfia, Lithwania ac Estonia.
Daw’r cyhoeddiad wythnos ar ôl i Rwsia ddechrau cynnal ymosodiadau o’r awyr yn Syria, gan ddweud eu bod yn targedu eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS). Ond dywed gwledydd y Gorllewin eu bod yn bennaf yn targedu gwrthryfelwyr Syria ac mai’r bwriad yw rhoi cefnogaeth i lywodraeth yr Arlywydd Assad.
Roedd Rwsia hefyd wedi anfon awyrennau dros y ffin i Dwrci ddwywaith dros y penwythnos, gan ennyn beirniadaeth lem.