Mae Lloegr allan o Gwpan Rygbi’r Byd wedi iddyn nhw golli o 33-12 yn erbyn Awstralia yn Twickenham nos Sadwrn.

Mae’r canlyniad yn golygu bod Cymru drwodd i rownd yr wyth olaf.

Dyma’r tro cyntaf i’r wlad sy’n cynnal y gystadleuaeth fethu cyrraedd y rowndiau terfynol.

Yn dilyn y siom i’r Saeson, maen nhw hefyd yn wynebu dirwy am beidio ufuddhau i’r rheolau sy’n gofyn bod 10 o chwaraewyr ar gael ar gyfer cyfweliadau ar ddiwedd gemau.

Dim ond dau o chwaraewyr – Tom Wood a Richard Wigglesworth – oedd ar gael yn ardal y wasg yn dilyn y golled.

Cadarnhaodd un o swyddogion parth y wasg yn Twickenham ei fod yn bwriadu gwneud cofnod o’r digwyddiad yn ei adroddiad swyddogol.

Roedd awgrym ar ddiwedd yr ornest fod y prif hyfforddwr, Stuart Lancaster yn ystyried ymddiswyddo, ac mae adroddiadau y gallai prif weithredwr yr RFU, Ian Ritchie hefyd golli ei swydd.

Yn ystod yr ornest, sgoriodd Bernard Foley 28 o bwyntiau i Awstralia, gan dorri’r record ar gyfer y nifer fwyaf o bwyntiau gan Awstraliad unigol yn erbyn Lloegr.

Erbyn hanner amser, roedd gan Awstralia fantais o 14 o bwyntiau, ac roedd Lloegr yn gwybod nad yw unrhyw wlad erioed wedi gwyrdroi’r fath fantais yng Nghwpan Rygbi’r Byd o’r blaen.