Sebastiano Magnanini
Roedd corff saer coed o’r Eidal a gafodd ei ganfod mewn camlas, wedi’i glymu’n fwriadol i droli siopa er mwyn ei guddio dan y dwr, meddai heddlu Scotland Yard heddiw.

Roedd corff Sebastiano Magnanini, 46, a oedd yn hanu o Fenis, wedi’i ganfon ger twnnel yng nghamlas y Regent’s Canal yng ngogledd Llundain toc wedi 9yh ddydd Iau diwetha’, Medi 24.

Doedd neb wedi gweld yr Eidalwr ers iddo adael ei waith yn ne-orllewin Llundain ddeuddydd yngynt.