Fel tasa’r oedi rhwng Llundain ac Abertawe ddim yn ddigon, mae mwy o oedi a thrafferthion mawr yn effeithio’r gwasanaeth trenau rhwng Casnewydd ac Chaerdydd.

Mae cerbyd wedi taro un o’r pontydd ar y ffordd rhwng y ddwy ddinas, a dyna sy’n achosi’r helynt diweddara’.

Mae cwmni National Rail wedi rhoi neges ar wefan Twitter yn dweud fod oedi o hyd at 20 munud, ac mae disgwyl i hyn bara wedi 5 o’r gloch brynhawn heddiw.