Mae swyddogion tollau Ffrainc ym maes awyr Charles de Gaulle ym Mharis, wedi dod o hyd i 115 o sgorpionau du, byw a oedd ar eu ffordd o Cameroon i’r Unol Daleithiau.

Fe ddaethpwyd o hyd i’r 69 sgorpion cynta’ mewn 19 bocs plastig yn cynnwys llwyth o neidr gantroed. Ddyddiau’n ddiweddarach, fe ddaethon nhw o hyd i 46 sgorpion mewn 35 o gwpanau plastig. Roedd y ddau achos wedi’u labelu fel samplau ar gyfer ymchwil meddygol.

Ond, roedd enw’r sawl oedd yn disgwyl am y creaduriaid yn America, ar restr o arbenigwyr sy’n gwerthu “cwmpeini anifeilaidd” ar y we.

Y llynedd, fe ddaeth tollau Ffrainc ar draws 1,392 o anifeiliaid byw.