Llys y Goron Bryste
Mae rheithgor wedi cael dyn yn ei arddegau a dagodd ferch 18 oed er mwyn cael rhyw gyda hi, yn euog o lofruddiaeth.

Roedd Jason Conroy, 19, sy’n diodde’ o syndrom Asperger, wedi ymosod ar Melissa Mathieson yng nghartre’ preswyl Alexandra House, Bryste, lle’r oedden nhw ill dau’n byw.

Wedi i Melissa Mathieson fynd yn anymwybodol, roedd Jason Conroy wedi ei llusgo i lawr y grisiau i’w lofft. Ond roedd rhai o aelodau staff y cartre’ wedi ei weld, ac fe ddechreuon nhw guro ar y drws.

Fe ddaethon nhw o hyd i Miss Mathieson yn gorwedd yn farw ar y grisiau, gyda marciau coch am ei gwddw.

Fe glywodd Llys y Goron Bryste fel yr oedd Jason Conroy wedi dianc, a bod neb wedi’i weld wedyn nes yr ymddangosodd ar do’r adeilad, yn bygwth neidio a’i ladd ei hun.

Pan gafodd ei arestio gan yr heddlu, roedd wedi dweud, “Fi sy’n gyfrifol”.

Fe gyfaddefodd Jason Conroy i ddynladdiad Melissa Mathieson, a hynny pan nad oedd yn gyfrifol am ei ymddygiad. Ond fe’i cafwyd yn euog o lofruddiaeth gan y rheithgor, yn dilyn achos a barodd wythnos gyfan.